Dull
1. Rhowch ddigon o ffrwythau mewn pot bach nes bod y pot yn hanner llawn. Os rydych yn defnyddio grawnwin, torrwch nhw yn eu hanner a thynnwch yr hadau allan. Torrwch unrhyw ffrwyth arall yn ddarnau bach.
2. Rhowch yr iogwrt ar ben y ffrwythau a rhowch ychydig o siwgr ar ei ben.
3. Rhowch y potiau o dan gril poeth iawn nes i'r siwgr ddechrau creu swigod. Cadwch yn yr oergell hyd nes y bydd ei angen.
Mae hwn yn bwdin munud olaf da ar gyfer gwesteion annisgwyl. Os yw amser yn brin, rhowch y potiau yn y rhewgell am 10 munud ar ôl coginio.

Buddiannau Sanclêr
• Wedi'i wneud o Laeth Organig
• Dim cyffeithyddion na chymhorthion prosesu, dim ond caws iogwrt naturiol
• Heb ei felysu
• Dim halen ychwanegol
• Profiotig• Yn mynd yn berffaith gyda physgod, cig a phasta neu ar ben taten bob neu ar fara gwenith cyflawn cras.

Caws Iogwrt Organig Hollol naturiol

Brulee Iogwrt

‘Y pwdin munud olaf’'

Yn gweini 1

Cynhwysion
1 ffrwyth (grawnwin/bananas/mwyar/ pîn-afal/gellyg/eirin gwlanog) 2 lwy fwrdd o Gaws Iogwrt Organig Sanclêr1 llwy fwrdd o siwgr brown meddal