Mae'r traddodiad o gynhyrchu caws iogwrt yn y rhan hon o Orllewin Cymru yn hen draddodiad, gyda straeon am ffermwyr a'u gwragedd yn cynhyrchu math o gaws iogwrt o laeth a oedd wedi cael ei geulo'n naturiol, ei wahanu a'i ddraenio ac yna'i gadw mewn bagiau mwslin, gan ffurfio ansawdd solet yr hyn a welir heddiw yng Nghaws Iogwrt Sanclêr.

Yr unig wahaniaeth i'r dull traddodiadol yw ein bod wedi datblygu dull modern a hylan o gynhyrchu'r un cynnyrch mewn ffordd fwy cyson a rheoledig. Nid ydym yn defnyddio ychwanegion na chyffeithyddion, dim ond crynodiad syml o'r maetholion gwerthfawr yn y llaeth, sy'n ein galluogi i ddarparu cynnyrch i'r farchnad a fu unwaith ar fyrddau ein cyndeidiau a'u teuluoedd.